Ysgolion

Rydym ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda'r disgyblion yn Ysgol Glanyfferi drwy ddweud wrthyn nhw am yr heriau sy'n wynebu'r byd cyfan a sut y gellir datrys y rhain yn lleol.
Ym mis Hydref, cynhaliom ni weithdy am newid yn yr hinsawdd gyda'r disgyblion hynaf, a daeth Cerith Rhys Jones sef Pencampwr Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru i wneud cyflwyniad ac i amlinellu'r hyn sydd gan y dyfodol i'w gynnig i'n pobl ifanc.
Gweithiodd y disgyblion gyda'i gilydd i dynnu lluniau o'r hyn roedden nhw'n ei hoffi am Lanyfferi ac ym mha ffordd roedden nhw am weld y lle yn cael ei ddatblygu yn y degawd nesaf. Roedd ganddyn nhw rai syniadau da am ddatblygu gwasanaethau.
Yn ddiweddar, enillodd yr ysgol wobr y Faner Werdd i Eco-Ygsolion, ac ymddengys bod nifer o'r disgyblion eisoes yn gwybod am bwysigrwydd ymddwyn yn wyrdd.
Yn ogystal, cyfrifom gyfartaledd Olion Traed Ecolegol y dosbarth. Dangosodd hyn petai pawb yn byw bywyd fel bywydau'r disgyblion, byddai angen 2.8 o blanedau arnom! Gobeithio y bydd hyn yn lleihau ar ôl i'r ymgyrch Byw Sir Gâr ddigwydd.
Hefyd, cymerodd yr ysgol ran yn lansiad Byw Sir Gâr ddydd Llun 2il o Dachwedd. Rhoddwyd cyflwyniad ganddyn nhw a chanwyd cân am y ffordd y dylid edrych ar ôl ein planed.
Ar Ddydd Mercher, 18fed Tachwedd, roedd yr ysgol wedi cynnal gweithgaredd Cerdded i'r Ysgol ar y cyd â Thîm Diogelwch Ffyrdd y Cyngor a'r masgot Gari Gofal.